

#NHSCymru70
DATHLIADAU PEN-BLWYDD Y GIG YN 70 YN BIPBC
Cardiau arbennig i fabanod
Fel rhan o GIG70 mae bydwragedd ar draws Gogledd Cymru wedi bod yn dathlu drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau gwahanol. Rhoddwyd cardiau arbennig i fabanod a gafodd eu geni heddiw i ddathlu’r achlysur.




Prynhawn Penblwydd GIG
Louise Granton o Kiddleydivey yn diddanu cleifion yn Ysbyty Wyddgrug.
Mae Uned y Plant yn Ysbyty Glan Clwyd yn cymryd rhan yn y dathlu ynghyd â staff Prestatyn Iach, Ysbyty Cymuned Rhuthun, Canolfan Feddygol Bwcle a’r tîm ym Mlaenau Ffestiniog
Bu Tîm Cymraeg BIPBC a chôr o Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl yn canu yng Nglan Traeth, Y Rhyl, heddiw i ddathlu GIG 70.






Arglwydd Barry Jones
Yr Arglwydd Barry Jones, Maer Wrecsam Andy Williams, côr Ysgol Bodhyfryd a staff a chleifion Ysbyty Maelor Wrecsam yn canu caneuon Cymraeg.
Nyrsys o Lanfairfechan yn myfyrio...
Wrth i’r GIG dathlu ei ben-blwydd yn 70, mae dwy o’n nyrsys sydd â’r gwasanaeth hiraf yn edrych yn ôl ar sut mae eu swyddi wedi newid dros y degawdau

Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug
Ysgol Bodhyfryd
Cleifion yn ysbyty cymuned yr Wyddgrug yn cael eu diddanu gan KiddleyDivey sy’n darparu gweithgareddau cerddorol i annog rhyngweithio cymdeithasol ymhlith pobl hŷn.
Y Gweithiwr Cefnogi Dementia, Jody yn mynd i'r hwyl a dyma Pamela ac Eleri gyda'r raffl yn Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug



Côr Ysgol Bodhyfryd yn perfformio i staff a chleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dathliad GIG70
I ddechrau ein dathliadau GIG70, rydym wedi bod yn darlledu’n fyw gyda’r BBC o Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd.
Mae staff yn Ysbyty Llandudno yn ymuno i reidio 70 milltir ar gefn beics, mae’r tîm hefyd wedi rhoi arddangosfa at ei gilydd i ddangos hanes yr ysbyty a bydd disgyblion o Ysgol Tudno yn Llandudno yn gweini te prynhawn i’n cleifion yn nes ymlaen.
A mae staff yn Ysbyty Glan Clwyd yn dathlu GIG70 gyda chacen, balŵns a gwisgoedd traddodiadol.




Ysbyty Cymued Rhuthun
Dydd Iau 5 Gorffennaf
2-3pm Te a chacennau wedi’i gefnogi gan Urdd Cyfeillion Rhuthun
Dydd Gwener 6 Gorffennaf
Arddangosfa o greiriau’r ysbyty a lluniau staff yn manylu ar y blynyddoedd o weithio i’r GIG
Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf
10am – 2pm Ffair Haf yr Ysbyty ac arddangosfa gan RCN
Tîm Cymraeg BIPBC
Heddiw bydd Tîm Cymraeg BIPBC a chôr o Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl yn canu yng Nglan Traeth, Y Rhyl, heddiw am 1.30 i ddathlu GIG 70 – dewch draw i’w gweld!

Arddangsofa o hanes y GIG yn lleol
Wrth i ni arwain tuag at pen-blwydd y GIG yn 70 oed ddydd Iau yma, mae Amgueddfa Dinbych yn cynnal arddangsofa o hanes y GIG yn lleol.
Bydd yr arddangosfa yn cynnwys eitemau meddygol o ddiddordeb hanesyddol ac yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld offer a oedd yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr iechyd proffesiynol ers talwm.
Bydd Uned Mân Anafiadau Inffyrmari Dinbych yn cynnal Parti Te a Chacennau ddydd Iau, 5 Gorffennaf o 2-3pm. Mae croeso i gleifion ac ymwelwyr fynychu

Ein staff yn canu Jess Glynne 'Hold my Hand'
Ymunodd ein staff ag eraill sy’n gweithio yn y GIG ar hyd a lled Cymru i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed gyda pherfformiad unigryw o gân boblogaidd Jess Glynne, Hold my Hand.
Bydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Wales ychydig cyn 7pm heno. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei fwynhau cymaint â ni:
Gwthio gwely
Dewch i gefnogi staff Uned Gofal Dwys Ysbyty Maelor Wrecsam sy’n gwthio gwely o gwmpas Wrecsam yn cychwyn o Lyfrgell Wrecsam am 11.30am - 5/07/2018
Bydd ein Nyrsys Gofal Critigol yn gwthio’r gwely am 70 munud o gwmpas Wrecsam i godi arian ar gyfer gardd ymlacio i gleifion.
Gala nofio
Bydd staff o’r Bwrdd Iechyd cyfan yn cymryd rhan mewn gala nofio dathlu pen-blwydd y GIG yn 70. Cynhelir y gala 70 hyd y pwll ym mhwll nofio Wrecsam ddydd Sul 15/07/18 i godi arian i Awyr Las.
Bydd y sesiwn gynhesu am 12.30 a’r rasys o 1-3pm fel bod pawb yn gallu mynd adref mewn pryd i wylio rownd derfynol Cwpan y Byd.
Bydd staff yn rasio yn erbyn clybiau nofio lleol a bydd cymysgedd o rasys cyfnewid a rasys hwyl fel ras rafftiau a ‘doggy paddle’.

Te parti
Dewch i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70 yng ngwmni Tîm Cymraeg
Canu ac eitemau cerddorol Cymraeg gan y Tîm Cymraeg a Chôr Ysgol Dewi Sant a Chôr Ysgol Dewi Sant.
1.30pm, 5 Gorffennaf 2018 - Glan Traeth, Ffordd Alexandra, Y Rhyl, LL18 3AS
Croeso Cynnes i Bawb, Dim tâl mynediad – am ddim!
Te parti

Bydd te parti ‘diolch’ GIG70 yn cael ei gynnal ym mynedfa Ysbyty Gwynedd ar 7 Gorffennaf rhwng 11am a 2pm.
Bydd siaradwyr, corau, stondinau rhagoriaeth feddygol a chardiau diolch – dewch a baneri i’w wneud yn lliwgar!
Parkrun Erddig
Gwnaeth nifer anhygoel o 371 o bobl o bob rhan o ogledd-ddwyrain Cymru ddod i ddigwyddiad Parkrun Erddig er mwyn helpu i hybu lles a byw'n iach fel rhan o ddathliadau penblwydd y GIG yn 70. Dyma'r nifer uchaf o redwyr a welwyd erioed yn nigwyddiad Parkrun Erddig.
Nod y fenter, sy'n cael ei galw'n 'ddigwyddiad Parkrun y GIG' yw cydnabod cyfraniad y GIG at iechyd y genedl ac ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a gwirfoddoli.

